Beth Fydd STASIS yn ei Ddarparu?
Bydd STASIS yn darparu cyfres o wasanaethau ac ategion a adwaenir ar y cyd fel Cymhwysiad Bwrdd Gwaith STASIS.
Mae Cymhwysiad Bwrdd Gwaith STASIS wedi'i adeiladu ar y platfform Eclipse sy'n galluogi datblygu cymwysiadau'n gyflym a defnyddio ategion estynadwy. Mae gan y feddalwedd ryngwyneb defnyddiwr deniadol a sythweledol sydd wedi'i gynllunio er mwyn i hyd yn oed y defnyddwyr lleiaf technegol allu deall STASIS.
Wrth gwrs, mae STASIS yn cydnabod na fydd gan ddefnyddwyr o'r fath ddiddordeb mewn deall beth y mae pob ategyn unigol yn ei wneud na sut y mae’n gweithio. Yn hytrach, dim ond i ddatrys problem benodol yn y modd hawsaf posibl y byddant yn dymuno defnyddio STASIS. Dyma'r hyn y mae Eclipse yn ei ganiatáu, a gall defnyddwyr lawrlwytho, gosod a rhedeg y Cymhwysiad Bwrdd Gwaith cyfan dim ond drwy glicio ar y llygoden sawl gwaith.
Mainc Weithio Gyffredin STASIS
Elfen graidd y Cymhwysiad Bwrdd Gwaith yw Mainc Weithio Gyffredin STASIS, y mae pob ategyn arall yn ymadweithio â hi. Mae’n darparu ymarferoldeb cyffredin megis rheoli ffeiliau, rheoli prosiectau, cyfaddasu rhyngwynebau defnyddwyr, ffefrynnau, nodau tudalen a llwybrau byr.
Ategion STASIS
Mae pum ategyn craidd yn darparu ymarferoldeb allweddol i Fainc Weithio Gyffredin STASIS:
Dadansoddydd STASIS
Mae Dadansoddydd STASIS yn caniatáu i ddefnyddwyr fewnfudo sgemâu o wahanol fformatau i mewn I'r Fainc Weithio Gyffredin sydd wedyn yn eu dadansoddi yn lled-awtomatig ac yn nodi asedau semantig.
Rhaglen Gweld STASIS
Mae Rhaglen Gweld STASIS yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio a chwilio am asedau semantig a gedwir yn STASIS. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer adeiladu cynnwys newydd megis negeseuon neu ddiffiniadau rhyngwyneb gan y gellir manteisio ar strategaethau a diffiniadau sydd eisoes yn bodoli a fydd, yn eu tro, yn fuddiol I'r defnyddiwr gan fod y semanteg hon eisoes yn rhan o'r rhwydwaith.
Cymharydd STASIS
Mae Cymharydd STASIS yn caniatáu i ddefnyddwyr gymharu eu hasedau semantig eu hunain â rhai eu partneriaid busnes. Hysbysir defnyddwyr am unrhyw ganlyniadau aneglur, ac fe'u cynorthwyir I'w datrys cyn y crëir mapiadau rhwng asedau cysylltiedig.
Dod o hyd i asedau semantig a'u mapio (cliciwch i chwyddo)
Rhaglen Puro STASIS
Mae Rhaglen Puro STASIS yn dadansoddi'r asedau semantig a gedwir yn STASIS yn awtomatig, gan chwilio am gofnodion nas defnyddir yn aml neu sy'n anghywir ac awgrymu cael gwared arnynt neu eu diweddaru i ddefnyddwyr.
Storio STASIS
Mae STASIS yn defnyddio cyfleuster storio arbennig sydd wedi'i seilio ar P2P lle y gellir dod o hyd i asedau semantig.






