Croeso
Croeso i wefan swyddogol y prosiect STASIS, a ariennir gan Chweched Rhaglen Fframwaith yr Undeb Ewropeaidd. Gobeithiwn y byddwch yn gweld gwefan STASIS yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol.
Beth yw STASIS?
Yn aml, mae Busnesau Bach a Chanolig yn ei chael hi’n anodd masnachu’n electronig oherwydd gwahaniaethau o ran ieithoedd a therminoleg. Er eu bod yn gymhleth ar hyn o bryd, gellid defnyddio technegau semantig, o bosib, i fynd i’r afael â’r broblem hon. Ystyriwch y datganiad canlynol:
Os oes gennyf wybodaeth yn fy fformat, a hwnnw’n cael ei integreiddio â’m systemau, rwyf yn dymuno rhoi cyn lleied o ymdrech â phosib i fapio hyn mewn unrhyw fformat (wedi’i safoni neu beidio) er mwyn masnachu’n electronig â pharti arall.
Dyma pryd y mae STASIS yn berthnasol. Nod y prosiect yw caniatáu i Fusnesau Bach a Chanolig gymryd rhan yn yr e-Economi drwy gynnig cyfres gydlynol o gymwysiadau semantig. Bydd y rhain yn ei gwneud hi’n hawdd dadansoddi, gweld, cymharu a chrisialu semanteg mewn amgylchedd effeithlon er mwyn cysylltu cysyniadau busnes un sefydliad yn fwy effeithiol â rhai un arall.
